Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Hydref 2018
Amser:
08.30 -
08.57
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i aildrefnu'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau', ar gyfer y cyfnod ar ôl hanner tymor
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 17 Hydref 2018 –
·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Creu'r Diwylliant Cywir (60
munud) -
gohiriwyd i 21 Tachwedd
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Dydd Mercher 24 Hydref 2018 –
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 7 Tachwedd 2018 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i'w ystyried, a chytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad cau o 14 Rhagfyr ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y mater.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl dan sylw, ond nododd y Rheolwyr y ffaith bod nifer o geisiadau am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn wedi dod i law yn ddiweddar mewn perthynas â deisebau sydd wedi cyrraedd y trothwy o 5,000 o lofnodion ond nad ydynt wedi bod yn destun adroddiad neu ymchwiliad gan y Pwyllgor Deisebau.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod penderfyniadau pellach ar y gweill mewn perthynas â newidiadau i'w phenderfyniad ynghylch sut y caiff llofnodion eu casglu.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais, gan benderfynu y byddai'n well ganddynt i Aelodau'r Pwyllgor ddal trên yn hwyrach oni bai bod angen i'r Pwyllgor fod yn Llundain at ddibenion busnes ar amser penodol y noson honno.
Gohiriwyd y drafodaeth gan y Rheolwyr Busnes tan y cyfarfod wythnos nesaf.